Yn eich helpu chi i wneud eich cartref yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithlon
Newidiadau i gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru
Bydd cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2024, gyda chynllun newydd yn ei ddisodli ddydd Llun 1 Ebrill 2024. Bydd gan y cynllun newydd fwy o ffocws ar dechnolegau carbon isel ar gyfer y cartref lle mae’n gwneud synnwyr i wneud hynny, i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn sero net erbyn 2050.
O dan y cynllun newydd, bydd pob cartref yn cael ei asesu’n unigol, a chynigir yr ateb gorau sy’n effeithlon o ran ynni. Gall hyn fod drwy inswleiddio, gwresogi carbon isel a thechnolegau adnewyddadwy.
Bydd Nyth yn parhau i roi cyngor i gwsmeriaid ar arbed ynni ac arian a bydd yn parhau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm tan ddiwedd mis Mawrth 2024. Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu mynegi eu diddordeb yn y cynllun newydd drwy wasanaeth cynghori Nyth a thrafod cynlluniau eraill o ran effeithlonrwydd ynni a’r grantiau carbon isel sydd ar gael.
Er mwyn gwneud y gorau o’r broses o weithredu’r ceisiadau sydd ar y gweill erbyn diwedd mis Mawrth 2024, ni fyddwn yn cymryd ceisiadau newydd ac eithrio cwsmeriaid cymwys sy’n agored i niwed heb wres na dŵr poeth yn yr eiddo.
Os nad oes gennych wres na dŵr poeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cynghori am yr help sydd ar gael i chi.
Cyngor i bawb
Mae cynllun Nyth yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim ac, os ydych chi’n gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel gwres canolog, inswleiddio, paneli solar, pwmp gwres neu foeler newydd am ddim. Gallai hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i’ch iechyd a’ch lles. Dysgwch sut y gallwch chi wneud cais am welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim ar gyfer eich cartref.
Os ydych chi’n poeni am eich biliau ynni, ffoniwch ni i siarad ag un o’n cynghorwyr cyfeillgar. Gallan nhw roi cyngor diduedd am ddim i chi ar:
- Arbed ynni a dŵr
- Rheoli arian
- Gwneud yn siŵr eich bod ar y tariff ynni a dŵr gorau
- A oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau i hybu’ch incwm
Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 neu gwnewch gais am alwad yn ôl gan ddefnyddio’n ffurflen ar-lein.
Syniadau arbed ynni a gwasanaethau cymorth
Rydyn ni’n deall y gall costau byw cynyddol fod yn destun pryder os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu’ch biliau ynni. Rydyn ni wedi creu darn arbenigol o gyngor am ynni i’ch helpu i arbed arian yn y cartref, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau cymorth i’ch cadw chi’n gynnes. Darllenwch ein cyngor ar sut i arbed arian a chadw’n gynnes yn eich cartref.