Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Wrth ymgymryd â gwaith gosod, bydd ein contractwyr bob amser yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli risg COVID-19. Bydd pob un o’n contractwyr yn cwblhau asesiad risg llawn ym mhob eiddo y maen nhw’n ymweld ag ef ac yn dilyn gweithdrefnau hylendid yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys defnyddio PPE. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi cyn yr ymweliad i drafod sut y bydd gwaith yn cael ei wneud a’r gofynion ar gyfer pob parti gan gynnwys pellhau cymdeithasol a gweithdrefnau hafan ddiogel y bydd angen eu dilyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu ymweliad cartref wedi’i archebu, cysylltwch â’n tîm cynghori ar Rhadffôn 0808 808 2244.