Pwy sy’n gymwys ar gyfer Nyth?
Mae pob cartref yng Nghymru yn gymwys i gael cyngor a chefnogaeth Nyth. Mae deiliaid tai sy’n berchen ar eu cartref neu’n rhentu yn breifat, yn derbyn budd-dal prawf modd neu’n byw gyda chyflyrau iechyd penodol, a gall byw yn yr eiddo mwyaf aneffeithlon o ran ynni fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref a ariennir gan Nyth.
Dim ond ceisiadau ar gyfer eiddo preswyl a dderbynnir gan Nyth; ni dderbynnir yr eiddo os cafodd ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn ystod y cyfnod o 12 mis cyn gwneud cais.
Nid yw eiddo sydd wedi cael pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim yn flaenorol o dan raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gymwys i gael unrhyw welliannau pellach yn yr un eiddo.
I gael rhestr o’r budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd cymwys, cliciwch yma.
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n byw gyda nhw gyflwr anadlol, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl cronig ac yn byw mewn eiddo ynni aneffeithlon (gradd D, E, F neu G) ac ar incwm islaw trothwyon diffiniedig efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Nac oes, nid oes meini prawf oedran ar gyfer deiliaid tai sy’n gwneud cais i Nyth.
Nid oes angen i chi wybod y radd effeithlonrwydd cyn i chi ffonio. Bydd ein cynghorwyr yn gofyn nifer o gwestiynau i chi dros y ffôn er mwyn nodi gradd yr eiddo. Ni chaiff cymhwysedd ei gadarnhau tan y bydd un o syrfewyr Nyth wedi ymweld â’ch eiddo ac wedi cynnal asesiad.
Mae deiliaid tai sy’n berchen ar eu heiddo neu’n ei rentu’n breifat yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni Nyth i’r cartref. Fodd bynnag, os byddwch yn rhentu eich eiddo’n breifat, bydd angen caniatâd y landlord cyn y gellir bwrw ati ag unrhyw waith – ni fydd yn gyfrifol am gael caniatâd gan y landlord.
- Rhaid bod landlord preifat wedi’i gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a gallu rhoi ei rif cofrestru i ni
- Gall landlord preifat gyfeirio hyd at uchafswm o dri eiddo i gynllun Nyth
- Bydd angen i landlord preifat ddarparu cofnod diogelwch nwy dilys a’i anfon i Nyth unwaith y bydd eiddo wedi cael ei gyfeirio i’r cynllun.
- Rhaid bod tenantiaid preifat wedi preswylio yn yr eiddo am gyfnod o chwe mis o leiaf cyn gwneud cais i Nyth
- Rhaid bod gan denantiaid preifat gytundeb tenantiaeth dilys â chyfnod o chwe mis o leiaf yn weddill arno
- Bydd angen i denantiaid preifat ddangos tystiolaeth o breswyliaeth/cyfeiriad i’r aseswr er mwyn dangos eu bod wedi bod yn yr eiddo am gyfnod o chwe mis cyn gwneud cais (e.e. bil cyfleustod neu fil treth gyngor) a chytundeb tenantiaeth dilys.
Pan fydd tenant yn gwneud cais i Nyth, rhaid i landlordiaid sy’n rhoi caniatâd i gynnal gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref lofnodi ffurflen datganiad. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys amod na ellir codi’r rhent am gyfnod o 12 mis o leiaf ar ôl gosod unrhyw welliannau effeithlonrwydd ynni.
Mae Pennington Choices wedi ennill contract cychwynnol ar gyfer Sicrhau Ansawdd ac Archwilio gan Lywodraeth Cymru yn dilyn proses gaffael gystadleuol fydd yn rhedeg rhwng 1 Gorffennaf 2018 a 31 Mawrth 2023. Mae’r contract hwn yn golygu y bydd angen i Pennington Choices gynnal archwiliadau annibynnol mewn cartrefi sy’n derbyn cymorth gan y cynllun Nyth er mwyn sicrhau bod y mesurau sydd ar waith yn cydymffurfio â safonau diwydiannol a chontractiol. Mae’n bosibl felly y bydd Pennington Choices yn cysylltu â chi yn annibynnol.
