Ynglŷn â Nyth
Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Arbed a Nyth, yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni gartrefi incwm isel a'r rheini sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.
Mae'n cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- lleihau newid yn yr hinsawdd
- helpu i ddileu tlodi tanwydd
- hybu gweithgareddau datblygu economaidd ac adfywio yng Nghymru
Mae'r ddau gynllun yn ystyried y tŷ cyfan wrth wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref. Mae hyn yn helpu i fynd i'r afael â chartrefi anos eu trin lle mae effaith tlodi tanwydd yn tueddu i fod ar ei gwaethaf.
Adroddiad Blynyddol
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2019-20
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2018-19
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2017-18
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2016-17
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2015-16
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2014-15
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2013-14
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2012-13
- Nyth Adroddiad Blynyddol 2011-12
Caiff cynllun Nyth ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru gan Nwy Prydain. Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn un o brif is-gontractwyr Nwy Prydain.
Nwy Prydain
Mae Nwy Prydain yn gwmni Prydeinig. Fel rhan o Grŵp Centrica, mae'n darparu gwasanaethau nwy a thrydan a gwasanaeth atgyweirio cartref i filiynau o gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yw prif sefydliad diduedd y DU sy'n helpu unigolion i arbed ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae'n gwneud hyn drwy gynnig dealltwriaeth a gwybodaeth arbenigol am arbed ynni, helpu pobl i weithredu, helpu awdurdodau lleol a chymunedau i arbed ynni a darparu sicrwydd ansawdd ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a gosodwyr.
Sut y gall Nyth helpu?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim, ac os ydych yn gymwys, becyn o welliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio.
