Pwy sy'n gymwys ar gyfer Nyth?
Mae pob cartref yng Nghymru yn gymwys i gael cyngor a chefnogaeth Nyth. Mae deiliaid tai sy'n berchen ar eu cartref neu'n rhentu yn breifat, yn derbyn budd-dal prawf modd neu'n byw gyda chyflyrau iechyd penodol, a gall byw yn yr eiddo mwyaf aneffeithlon o ran ynni fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref a ariennir gan Nyth.
Dim ond ceisiadau ar gyfer eiddo preswyl a dderbynnir gan Nyth; ni dderbynnir yr eiddo os cafodd ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn ystod y cyfnod o 12 mis cyn gwneud cais.
Nid yw cwsmeriaid sydd wedi cael pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am ddim yn flaenorol o dan raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gymwys i gael unrhyw welliannau pellach yn yr un eiddo.
Beth yw'r budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd?
I gael rhestr o'r budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd cymwys, cliciwch yma.
Beth yw'r meini prawf iechyd newydd?
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw gyflwr anadlol, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl cronig ac yn byw mewn eiddo ynni aneffeithlon (gradd D, E, F neu G) ac ar incwm islaw trothwyon diffiniedig efallai y byddwch chi'n gymwys i gael cymorth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
A oes meini prawf oedran ar gyfer y cynllun?
Nac oes, nid oes meini prawf oedran ar gyfer deiliaid tai sy'n gwneud cais i Nyth.
Sut y byddwch yn gwybod os bydd gan eiddo radd E, F neu G?
Nid oes angen i chi wybod y radd effeithlonrwydd cyn i chi ffonio. Bydd ein cynghorwyr yn gofyn nifer o gwestiynau i chi dros y ffôn er mwyn nodi gradd yr eiddo. Ni chaiff cymhwysedd ei gadarnhau tan y bydd un o syrfewyr Nyth wedi ymweld â'ch eiddo ac wedi cynnal asesiad.
A yw eiddo a gaiff eu rhentu'n breifat yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni?
Mae deiliaid tai sy'n berchen ar eu heiddo neu'n ei rentu'n breifat yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni Nyth i'r cartref. Fodd bynnag, os byddwch yn rhentu eich eiddo'n breifat, bydd angen caniatâd y landlord cyn y gellir bwrw ati ag unrhyw waith - ni fydd yn gyfrifol am gael caniatâd gan y landlord.
- Rhaid bod landlord preifat wedi'i gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a gallu rhoi ei rif cofrestru i ni
- Gall landlord preifat gyfeirio hyd at uchafswm o dri eiddo i gynllun Nyth
- Bydd angen i landlord preifat ddarparu cofnod diogelwch nwy dilys a'i anfon i Nyth unwaith y bydd eiddo wedi cael ei gyfeirio i'r cynllun.
- Rhaid bod tenantiaid preifat wedi preswylio yn yr eiddo am gyfnod o chwe mis o leiaf cyn gwneud cais i Nyth
- Rhaid bod gan denantiaid preifat gytundeb tenantiaeth dilys â chyfnod o chwe mis o leiaf yn weddill arno
- Bydd angen i denantiaid preifat ddangos tystiolaeth o breswyliaeth/cyfeiriad i'r aseswr er mwyn dangos eu bod wedi bod yn yr eiddo am gyfnod o chwe mis cyn gwneud cais (e.e. bil cyfleustod neu fil treth gyngor) a chytundeb tenantiaeth dilys.
A fydd gwelliannau Nyth yn annog landlordiaid preifat i godi'r rhent a godir ganddynt?
Pan fydd tenant yn gwneud cais i Nyth, rhaid i landlordiaid sy'n rhoi caniatâd i gynnal gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref lofnodi ffurflen datganiad. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys amod na ellir codi'r rhent am gyfnod o 12 mis o leiaf ar ôl gosod unrhyw welliannau effeithlonrwydd ynni.
Sicrhau Ansawdd ac Archwilio
Mae Pennington Choices wedi ennill contract cychwynnol o 3 blynedd ar gyfer Sicrhau Ansawdd ac Archwilio gan Lywodraeth Cymru yn dilyn proses gaffael gystadleuol fydd yn rhedeg rhwng 1 Gorffennaf 2018 a 31 Mawrth 2021, gydag estyniad posibl hyd at 31 Mawrth 2023. Mae'r contract hwn yn golygu y bydd angen i Pennington Choices gynnal archwiliadau annibynnol mewn cartrefi sy'n derbyn cymorth gan y cynllun Nyth er mwyn sicrhau bod y mesurau sydd ar waith yn cydymffurfio â safonau diwydiannol a chontractiol. Mae'n bosibl felly y bydd Pennington Choices yn cysylltu â chi yn annibynnol.
Sut y gall Nyth helpu?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim, ac os ydych yn gymwys, becyn o welliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio.
