Croeso i Nyth
Croeso i Gynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun Nyth yn rhan o’n strategaeth i leihau tlodi tanwydd yng Nghymru trwy helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
Nod cynllun Nyth yw cynyddu effeithlonrwydd ynni eiddo, sy’n helpu nid yn unig i leihau biliau ynni ond sydd hefyd yn gwneud y lle’n fwy clyd ac yn gwella iechyd a llesiant. Yn ogystal, mae’n helpu i leihau’r tebygolrwydd y bydd teulu’n byw mewn tlodi tanwydd yn y dyfodol neu’n dioddef sgil-effeithiau byw mewn cartref oer.
Ers 2011, mae Nyth wedi darparu gwelliannau effeithlonrwydd cartref am ddim i’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys aelwydydd incwm isel ac agored i niwed, ac mae dros 29,000 o gartrefi wedi elwa.
Mae cynllun Nyth yn cefnogi mynediad at gyngor a chymorth annibynnol am ddim i helpu deiliaid tai sy’n byw yng Nghymru, ac mae dros 98,000 o ddeiliaid tai wedi derbyn cyngor a chymorth yn ystod y saith mlynedd ers i’r cynllun gael ei roi ar waith.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu’ch biliau ynni, byddwn yn eich annog i gysylltu â Nyth trwy ffonio Rhadffôn 0808 808 2244 i weld sut y gall y cynllun eich helpu chi.
Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Sut y gall Nyth helpu?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim, ac os ydych yn gymwys, becyn o welliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio.
