Cyngor i bawb
Os ydych yn poeni am eich biliau ynni, ffoniwch ni a siaradwch ag un o'n cynghorwyr cyfeillgar. Gallant gynnig cyngor diduedd am ddim ar y canlynol:
- Arbed ynni a dŵr
- Rheoli arian
- Gwneud yn siŵr eich bod ar y tariff ynni a dŵr gorau
- P'un a oes hawl gennych i gael unrhyw fudd-daliadau er mwyn cynyddu eich incwm
Ffoniwch Rhadffon 0808 808 2244 neu llenwch y ffurflen ffonio'n ôl a byddwn yn eich ffonio.
Gwelliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim
A yw eich cartref yn anodd i'w wresogi? Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am ddim i chi.
Rydym yn gosod boeleri newydd, systemau gwres canolog a deunyddiau inswleiddio er mwyn helpu cartrefi ar incwm isel i gadw'n gynnes a lleihau cost eu biliau ynni.
Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim os:
- Rydych yn berchen ar eich cartref neu'n rhentu gan landlord preifat (nid y Cyngor na Chymdeithas Dai)
- Rydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi yn cael budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd
- Nid yw eich cartref yn ynni-effeithlon ac mae'n ddrud i'w wresogi
Os ydych yn gymwys, byddwn yn argymell pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i chi. Byddant yn gwneud eich cartref yn gynhesach ac yn arbed arian i chi ar eich biliau ynni.
Bydd ein cynghorwyr yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich eiddo a'r budd-daliadau rydych yn eu cael, felly gwnewch yn siŵr bod eich llythyr dyfarnu budd-dal ac, os yw'n gymwys, manylion eich landlord gennych wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Gwybodaeth am sut i wneud cais am Nyth.
“Mae delio â Nyth wedi bod mor hawdd, o’r alwad ffôn gychwynnol, gwnaethon nhw ddelio â’r cyfan! Cefais y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth, ond doedd dim angen i mi boeni am wneud galwadau ffôn na rhoi trefn ar bethau, mae hynny’n helpu mwy na dim. Mae fy nghartref gymaint yn gynhesach, ac mae’n gwneud byd o wahaniaeth pan fyddwch yn troi’r tap ymlaen ac mae dwˆ r poeth yn arllwys ohono! Ers blynyddoedd lawer, cyn i’r system roi’r gorau i weithio, des i i’r arfer â gorfod cynhesu’r dwˆ r am oriau yn gyntaf, ac hyd y oed wedyn, nid oedd mor boeth â’r dwˆ r sydd ar gael nawr. Mae’n arbennig a dylai mwy o bobl wybod am Nyth a sut y gall y cynllun eu helpu.’’ Un o drigolion Y Rhondda
Sut y gall Nyth helpu?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim, ac os ydych yn gymwys, becyn o welliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio.
