Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Darllenwch y meini prawf cymhwysedd canlynol yn ofalus. Efallai y bydd angen i chi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth bellach fel llythyr dyfarnu budd-dal, ac os yw’n berthnasol, manylion eich landlordiaid. Sicrhewch fod y manylion hyn wrth law pan fyddwch yn ein ffonio. Trwy wneud hynny, bydd ein cynghorwyr arbenigol yn gallu prosesu eich manylion yn gyflymach. Nid yw eiddo sydd wedi elwa o’r blaen o becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim o dan raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn gymwys i dderbyn unrhyw welliannau pellach yn yr un eiddo.

Ehangu’r Hollblack-arrow-up

Cau’r Cyfanblack-arrow-up

black-arrow-up

Ydych chi’n gymwys?

Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim os ydych chi’n cwrdd â’r tri amod isod:

  • Rydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu’n breifat (nid gan awdurdod lleol na chymdeithas dai)
  • Nid yw eich cartref yn ynni-effeithlon ac mae’n ddrud i’w wresogi
  • Rydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn cael budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd NEU yn dioddef o gyflwr anadlol, cyflwr cylchrediad y gwaed neu gyflwr iechyd meddwl cronig ac yn ennill incwm sydd islaw’r trothwyon diffiniedig

Mae’r budd-daliadau canlynol sy’n dibynnu ar brawf modd yn gymwys:

  • Credyd Treth Plant (incwm islaw £16,105 y flwyddyn)
  • Gostyngiad Treth Gyngor (nid yw eithriad na disgownt yn gymwys ar ei ben ei hun)
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith (incwm islaw £16,105 y flwyddyn)
black-arrow-up

Meini Prawf Iechyd Cymwys

Law yn llaw â’r meini prawf cyfredol i bobl sy’n derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, dyma’r meini prawf iechyd ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni’r cartref:

Rhaid i rywun sy’n byw yn y tŷ fod:

  • Yn byw gyda chyflwr anadlol, cyflwr cylchrediad y gwaed, neu gyflwr iechyd meddwl cronig. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • Clefyd anadlol (heintiau anadlol, broncoddarwasgiad mewn asthma, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint)
    • Clefyd cylchrediad y gwaed (gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, strôc a thrawiad ar y galon
    • Materion iechyd meddwl (gan gynnwys iselder, gorbryder, seicosis ac anhwylder deubegynol, dementia, anhwylderau deallusol a datblygu).
  • Yn byw ar incwm isel, islaw’r trothwyon diffiniedig.
black-arrow-up

Tystiolaeth o gyflwr iechyd

Bydd angen i chi gadarnhau bod gennych dystiolaeth o’ch cyflwr iechyd megis presgripsiwn, pecyn meddyginiaeth, cynllun triniaeth neu lythyr apwyntiad gan y Meddyg Teulu/Ysbyty. Ni fydd angen darparu’r dystiolaeth hon ymlaen llaw. Os penderfynir eich bod yn gymwys, bydd ein haseswyr yn edrych ar y dystiolaeth pan fyddant yn ymweld â’ch cartref.

Trothwyon Incwm Cymhwysedd Iechyd

Ceir amlinelliad o’r trothwyon incwm ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid isod. Mae’r rhain yn seiliedig ar gyfanswm incwm y cartref ar ôl taliadau morgais/rhent.

Cyfansoddiad y cartrefIncwm blynyddol y cartref (ar ôl taliadau morgais/rhent)Incwm misol y cartref (ar ôl taliadau morgais/rhent)
1 neu fwy o oedolion 18 oed a throsodd£16,105£1,342
1 neu 2 oedolyn ac un neu ddau dibynnydd£21,352£1,779
1 neu 2 oedolyn a thri dibynnydd£23,100£1,930
1 neu 2 oedolyn a phedwar dibynnydd neu fwy£25,700£2,140

Mae rhai pobl, sy’n treulio mwy na’r amser cyfartalog gartref, yn fwy tebygol o wynebu risg yn ystod y misoedd oeraf.

Pobl hŷn (75 oed a throsodd)
Teuluoedd â phlant ifanc (5 oed neu iau)
Pobl ag anableddau (nam meddyliol neu gorfforol, sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu’r person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd)

I’r deiliad tai hynny sy’n byw gyda chyflwr iechyd cymwys, mae’r trothwy incwm yn cynyddu i £21,352 yn ar ôl costau tai gyda chynilion heb fod yn fwy na £16,000 i bobl hŷn 75 oed a throsodd.

Cyfansoddiad y cartrefIncwm blynyddol y cartref (ar ôl taliadau morgais/rhent)Incwm misol y cartref (ar ôl taliadau morgais/rhent)
1 oedolyn neu fwy, gan gynnwys preswylydd anabl neu berson 75 oed neu’n hŷn neu blentyn 5 oed neu iau.£21,352 (a mwy, ar gyfer y rhai sy’n 75 oed neu’n hŷn, cynilion o ddim mwy na £16,000)£1,779
black-arrow-up

Tystiolaeth

Yn ogystal â thystiolaeth o gyflwr iechyd fel yr amlinellir uchod, gallwch ddangos eich bod yn gymwys ae gyfer y trothwy incwm ychwanegol drwy ddarparu pàs bws yn ôl disgresiwn / i’r anabl , bathodyn glas, neu dystiolaeth eich bod wedi’ch cofrestru â’r awdurdod lleol o dan adran 18 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd ein haseswyr yn edrych ar y dystiolaeth pan fyddant yn ymweld â’ch cartref.

Os ydych yn gymwys, byddwn yn argymell pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i chi. Byddant yn gwneud eich cartref yn gynhesach ac yn arbed arian i chi ar eich biliau ynni.

Bydd ein cynghorwyr arbenigol yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich eiddo a’r budd-daliadau rydych yn eu cael, felly gwnewch yn siŵr bod eich llythyr dyfarnu budd-dal ac, os yw’n gymwys, manylion eich landlord gennych wrth law pan fyddwch yn ffonio.

Warm Home Discount

Sut y gall Nyth helpu?

Gwneud cais am Nyth