Mae pob nyth yn wahanol, ond gall pob newid bach helpu i arbed arian ac ynni

Rydym yn deall y gall costau byw cynyddol achosi pryder os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni, ond mae cymorth a chyngor ar gael i'ch cynorthwyo.

Mae help a chyngor ar arbed arian ar gael i chi, a gall ychydig o newidiadau bach o amgylch y cartref wneud gwahaniaeth mawr...

Awgrymiadau Arbed Ynni

Ehangu'r hollblack-arrow-up

Cau'r cyfanblack-arrow-up

black-arrow-up

Cadw eich cartref yn gynnes

Os ydych eisiau lleihau eich biliau ynni a chadw eich allyriadau carbon yn a'ch biliau ynni'n isel, bydd inswleiddio neu atal drafftiau yn lleihau faint o wres sy'n cael ei golli. Mae sawl ffordd syml, ond effeithiol, i inswleiddio eich cartref a all leihau yn sylweddol faint o wres sy'n cael ei golli a lleihau eich biliau gwresogi. Er enghraifft, gall gosod siaced insiwleiddio 80mm ar eich silindr dŵr poeth arbed £70 y flwyddyn mewn costau gwresogi a 155kg o allyriadau carbon deuocsid.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni amrywiaeth o gyngor ar inswleiddio ac atal drafft yma.

black-arrow-up

Osgoi Lleithder

Gall croniad o leithder yn y cartref achosi pob math o broblemau a gall niweidio adeiladwaith yr adeilad os caniateir iddo barhau. Ac os bydd llwydni'n dechrau tyfu, gall hyn hyd yn oed effeithio ar eich iechyd. Awgrymiadau ar sut i osgoi lleithder:

  • Rhowch gaeadau ar sosbenni wrth goginio
  • Dylech osgoi gwresogyddion nwy potel heb dyllau aer
  • Inswleiddio: bydd hyn yn helpu i atal mannau oer lle y gall lleithder ffurfio
  • Gadewch fwlch rhwng dodrefn a'r wal i alluogi aer i gylchredeg
  • Agorwch ffenestr neu defnyddiwch ffan echdynnu wrth goginio, cael cawod neu ymolchi

Dysgwch ragor am fanteision trwsio lleithder a chyddwysiad yma.

black-arrow-up

Prynu cynhyrchion ynni effeithlon

Gall symud i ddefnyddio teclynnau ynni effeithlon fod yn ffordd wych o arbed arian ar eich biliau, yn ogystal â lleihau eich ôl troed carbon. Wrth brynu teclyn newydd ar gyfer eich cartref, edrychwch am ei label ynni. Mae'r label ynni wedi'i raddio o A-G, gydag A y mwyaf effeithlon a G y lleiaf effeithlon. Gall dewis peiriant golchi â graddfa A yn hytrach nag un â graddfa D, arbed tua £130 (100kg o allyriadau carbon deuocsid) dros ei oes o 11 mlynedd. Ceisiwch wneud yn siwr mai dim ond pan fydd gennych ddigon o ddillad budur ar gyfer llwyth llawn y dylech olchi dillad, a golchwch nhw ar dymheredd isel er mwyn sicrhau cymaint o arbedion â phosibl.

Dysgwch ragor am arbed ar declynnau'r cartref a goleuo.

black-arrow-up

Creu cartref gwyrddach

Mae Cymru yn genedl o bobl sydd eisiau gwella eu cartrefi. Rydym wrth ein bodd â chael cartref cynnes a chlyd a lleihau ein biliau ynni. Gall gwneud eich cartref yn lle gwyrddach i fyw ynddo fod yn haws nag y byddech yn ei feddwl.

Gallwch gynhyrchu eich trydan neu wres eich hun o ffynonellau ynni adnewyddadwy, neu rai y gellir eu hailgyflenwi megis yr haul neu'r gwynt. Mae mwy o gartrefi yng Nghymru eisoes yn cynhyrchu trydan naill ai o solar neu wynt, ac mae cynyrchyddion ynni adnewyddadwy yn prysur ddod yn olygfa gyffredin ledled y wlad.

Gallwch ddysgu mwy am opsiynau gwresogi adnewyddadwy a charbon isel ar gyfer eich cartref yma.

Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yr arbenigwyr arbed ynni annibynnol, wedi llunio awgrymiadau a all eich helpu i arbed ynni a gostwng eich biliau ynni. Mae'r awgrymiadau ar sut i arbed ynni yn cynnwys pethau y gallwch eu gwneud nawr i leihau eich defnydd o ynni a'ch biliau ynni. Cliciwch yma i ddysgu sut y gallwch arbed hyd at £564* y flwyddyn ar eich biliau.

Er enghraifft, gall diogelu eich cartref rhag drafftiau er mwyn cadw'r gwres i mewn arbed £125 y flwyddyn i chi ar eich biliau.

Gallech hefyd arbed tua £65 y flwyddyn drwy gofio diffodd teclynnau sydd wedi’u gadael mewn modd segur.

Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi

Mae manteision ehangach yn cael eu cynnig gan Lywodraethau Cymru a'r DU a allai helpu gyda chostau byw. Dysgwch os ydych yn gymwys a hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi drwy fynd i Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi neu ffoniwch Advicelink Cymru ar y rhif rhadffôn 0808 250 5700 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm

Gwasanaethau Cymorth Ychwanegol

Gofal a Thrwsio

Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol er mwyn helpu pobl hŷn yng Nghymru i gadw'n ddiogel, cynnes ac iach gartref. Maent yn gosod cymhorthion ac addasiadau anabledd, yn cyflenwi gwasanaethau cynnal a chadw'r cartref, yn helpu i wneud y gorau o incwm a chael mynediad at grantiau, ac yn gwneud cartrefi'n ddiogel i ddychwelyd iddynt o'r ysbyty.

Hyd yn oed os credwch nad ydych fel arfer yn gymwys i gael cymorth ariannol gallech fod yn gymwys i gael rhywfaint o gymorth â chostau byw o ddydd i ddydd. Darganfod mwy am Gofal a Thrwsio yma.

Gwasanaethau Tân ac Achub

Mae gan Gymru dri Gwasanaeth Tân ac Achub sy’n darparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn a gwasanaeth ymateb brys ledled y wlad.

Maent yn cynnal ymweliad diogel ac iach am ddim lle maent yn cyflwyno gwybodaeth am ddiogelwch rhag tân yn y cartref ac yn gosod larymau mwg, yn ogystal â rhoi cyngor ar ddiogelwch yn y cartref, atal syrthio, ymwybyddiaeth o sgamiau a mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd.

Bydd eich Gwasanaeth Tân ac Achub yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth:

Gwrandewch ar neges Bill Bach:

Cysylltwch â'n tîm

Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu y gaeaf hwn, siaradwch ag un o'n cynghorwyr drwy ffonio'r Rhadffon 0808 808 2244 a dewis opsiwn 2. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 6pm.

Cael mynediad at y wybodaeth hon

Gallwch gael y wybodaeth uchod mewn ieithoedd gwahanol drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.