Ar gyfer ymholiadau cychwynnol a cheisiadau:
- Ffoniwch 0808 808 22 44. Gallwch ffonio am ddim o linell daear neu ffôn symudol.
- Gwnewch gais am alwad yn ôl gan dîm Nyth
- E-bostiwch eich diddordeb i advicewales@est.org.uk
Ar ôl i chi wneud cais, os hoffech siarad â’ch Rheolwr Cwsmeriaid Personol, ffoniwch 0800 294 1945, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn: NestPersonalCustomerManager@centrica.com neu ysgrifennu atom yn: Cynllun Nyth, Y Ganolfan Arloesi, Gyriant yr Wyl, Parc Busnes Victoria, Glyn Ebwy, NP23 8XA.
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda’ch system, bydd angen i chi ffonio’r rhifau isod:
Systemau Gwresogi Nwy, LPG a Thrydan – 0800 316 3715
Systemau Gwresogi Olew a Thanwydd Solet – 08448 797 240
Os bydd Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer a osodwyd o dan y cynllun yn ddiffygiol o fewn 12 mis i’w osod, ffoniwch 0800 294 1945
Gwasanaeth cwsmeriaid a chwynion
Gobeithio y bydd eich profiad o gynllun Nyth yn gadarnhaol, ond rydym yn ymwybodol y gallwn bob amser wella, felly mae dychwelyd eich holiadur boddhad cwsmeriaid ar ôl i’ch archwiliad gael ei gwblhau o gymorth mawr i ni.
Fodd bynnag, os byddwch yn anfodlon mewn unrhyw ffordd, gellir cysylltu â’n Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar y rhif Rhadffon 0800 294 1945, drwy e-bost yn nestcustomerliaisonteam@centrica.com, neu yn y cyfeiriad post uchod. Byddwn yn ymateb i’ch ymholiad o fewn 24 awr i’w gael. Os na chaiff eich cwyn ei datrys o fewn pum diwrnod gwaith, bydd y tîm yn cysylltu â chi eto i’ch hysbysu am y camau sy’n cael eu cymryd, a bydd yn cadw mewn cysylltiad â chi nes bod eich cwyn yn cael ei datrys.
