Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Datganiad hygyrchedd ar gyfer nyth.llyw.cymru a’r ap Porth Partneriaid

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i nyth.llyw.cymru a’i ap Porth Partneriaid.

Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon ac i Sefydliadau Partner ddefnyddio’r ap. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan a’r ap Porth Partneriaid

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r ap Porth Partneriaid yn gwbl hygyrch:

 Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch ar ffurf wahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain, neu braille:

E-bostiwch: advicewales@est.org.uk

Ffoniwch: 0808 808 2244

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom i gael cyfarwyddiadau nyth.llyw.cymru/cy/contact-us/

Rhoi gwybod am broblemau ynglŷn â hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn gweld unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os byddwch o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: advicewales@est.org.uk

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Gydraddoldeb.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

Mae ein swyddfa ar gau ar hyn o bryd oherwydd pandemig COVID-19. Gallwch gael gwybod sut i gysylltu â ni drwy fynd i nyth.llyw.cymru/cy/contact-us/ neu ffonio 0808 808 2244.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Orchard Media and Events Group Limited yn ymrwymedig i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safonau lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

Lefel A

Mae’r mwyafrif o faterion Lefel A ar y wefan yn ymwneud â:

▪ Strwythur y pennawd a ddefnyddir ar dudalennau

▪ Testun amgen ar ddelweddau

▪ Marcio dyfyniadau yn gywir

▪ Dim ffordd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol eraill osgoi adran benawdau tudalennau

Caiff llawer o’r materion hyn eu rhannu rhwng tudalennu oherwydd y pennyn a’r troedyn cyffredin a ddefnyddir.

Lefel AA

Mae cydymffurfiaeth Lefel AA yn golygu bod gwefan yn cydymffurfio â holl feini prawf llwyddiant Lefel A a Lefel AA.

Mae materion Lefel AA ar y wefan yn cynnwys:

▪ Cyferbynnedd annigonol rhwng y testun a’r cefndir

▪ Nid yw rhai dolenni yn dangos dangosydd ffocws pan fydd y defnyddiwr yn defnyddio bysellfwrdd yn hytrach na llygoden i lywio o amgylch tudalen

Llywio a chael gafael ar wybodaeth

Cwmpesir llywio a chael gafael ar wybodaeth yn yr adran cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw rhai o’n dogfennau PDF hŷn yn cyrraedd safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u strwythuro i fod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1.

Mae rhai o’n dogfennau PDF yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu ddarparu tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn cyrraedd safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu penawdau at ffrydiau fideo byw am fod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio gyda datblygwyr i gydymffurfio’n llawn â safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1. Disgwylir i wefan Nyth ar ei newydd wedd gael ei lansio erbyn diwedd 2021, a chaiff prawf hygyrchedd arall ei gynnal ar y wefan i sicrhau ei bod yn cyrraedd safonau AA.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 20 Awst 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 20 Awst 2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 29 Hydref 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Connect Internet Solutions Limited.

Gwnaethom ddefnyddio’r dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi

nyth.llyw.cymru/cy/

nyth.llyw.cymru/cy/how-can-nest-help/

nyth.llyw.cymru/cy/how-to-apply/

nyth.llyw.cymru/cy/eligibility/

nyth.llyw.cymru/cy/faqs/

nyth.llyw.cymru/cy/working-in-partnership/

nyth.llyw.cymru/cy/about-nest/