Fel partner sy’n gweithio’n agos mewn cymunedau ledled Cymru, byddwch yn dod ar draws pobl sydd angen help i wneud eu cartrefi’n fwy cynnes ac yn fwy fforddiadwy i’w gwresogi.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru er mwyn helpu i gyrraedd cartrefi y gallai ein cyngor a’n cymorth fod o fudd iddynt.
Mae gennym Reolwyr Datblygu Partneriaethau a all ddarparu sesiynau hyfforddiant a chyflwyniadau er mwyn helpu eich tîm i ddeall y cymorth y gall Nyth ei ddarparu.
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau defnyddiol i’w lawrlwytho a all eich helpu i hyrwyddo cynllun Nyth.
Gallwn hefyd ddarparu Pecyn Digwyddiad er mwyn helpu i roi cyhoeddusrwydd i Nyth yn eich lleoliad neu ddigwyddiad cyhoeddus, sy’n cynnwys taflenni, dalwyr taflenni a phosteri.
Manylion cyswllt y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau
De a Gorllewin Cymru – Peter Hughes
Email: peter.hughes@est.org.uk
Mobile: 07538 041 319
Gogledd Cymru a Powys – Dylan Mclellan
Email: dylan.mclellan@est.org.uk
Mobile: 07903 443 655
Gwneud cais ar ran rhywun
Rydym yn deall bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu dros y ffôn drwy linell cyngor Nyth.
Rydym am sicrhau y gall pawb gael help gan Nyth, yn enwedig y bobl hynny sy’n agored i niwed. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ac asiantaethau partner er mwyn helpu i gyrraedd pobl ag anghenion penodol a’u helpu i gael budd o’r gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim a gynigir gan Nyth.
Os hoffech gael gwybod sut i helpu rhywun i wneud cais i Nyth, cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Partneriaethau Nyth lleol.
Porth Partneriaid Nyth
Mae Porth Partneriaid Nyth yn ei gwneud hi’n hawdd i chi gwblhau cais ar ran eich cleient (cleientiaid) ac olrhain cynnydd y cais hwnnw.
Pan fyddwch yn cofrestru ar y porth, byddwch yn cael manylion mewngofnodi unigryw a hyfforddiant am ddim o ran sut i’w ddefnyddio. Cynigir cymorth parhaus ac mae ein Rheolwyr Datblygu Partneriaethau bob amser wrth law i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych.
Cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Partneriaethau lleol os hoffech gofrestru ar Borth Partneriaid Nyth.
Ap Partneriaid Nyth
Mae gennym hefyd ap ar gyfer ffonau symudol y gallwch ei ddefnyddio i gofrestru fel partner ac i gyfeirio pobl i’r cynllun i gael cymorth. Mae’r ap yn trosglwyddo data wedi’u hamgodio i dîm Nyth ac nid yw’n storio data ar eich ffôn.
Adnoddau
Gallwch ddod o hyd i nifer o adnoddau defnyddiol i’w lawrlwytho isod a all eich helpu i hyrwyddo cynllun Nyth.
