Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Newidiadau i gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru

Bydd cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2024, gyda chynllun newydd yn ei ddisodli ddydd Llun 1 Ebrill 2024. Bydd gan y cynllun newydd fwy o ffocws ar dechnolegau carbon isel ar gyfer y cartref lle mae’n gwneud synnwyr i wneud hynny, i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn sero net erbyn 2050.

O dan y cynllun newydd, bydd pob cartref yn cael ei asesu’n unigol, a chynigir yr ateb gorau sy’n effeithlon o ran ynni. Gall hyn fod drwy inswleiddio, gwresogi carbon isel a thechnolegau adnewyddadwy.

Bydd Nyth yn parhau i roi cyngor i gwsmeriaid ar arbed ynni ac arian a bydd yn parhau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm tan ddiwedd mis Mawrth 2024. Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu mynegi eu diddordeb yn y cynllun newydd drwy wasanaeth cynghori Nyth a thrafod cynlluniau eraill o ran effeithlonrwydd ynni a’r grantiau carbon isel sydd ar gael.

Er mwyn gwneud y gorau o’r broses o weithredu’r ceisiadau sydd ar y gweill erbyn diwedd mis Mawrth 2024, ni fyddwn yn cymryd ceisiadau newydd ac eithrio cwsmeriaid cymwys sy’n agored i niwed heb wres na dŵr poeth yn yr eiddo.

Os nad oes gennych wres na dŵr poeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cynghori am yr help sydd ar gael i chi.

Ffoniwch Rhadffon 0808 808 2244 neu llenwch y ffurflen ffonio’n ôl a byddwn yn eich ffonio.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd un o gynghorwyr Nyth yn gofyn rhai cwestiynau i chi er mwyn penderfynu a ydych chi a’ch eiddo yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim. Os byddwch yn gymwys, byddwn yn trefnu i un o aseswyr Nyth ymweld â chi yn eich cartref er mwyn gweld pa welliannau effeithlonrwydd ynni y gallwn eu cynnig i chi. 

Beth os na fyddaf yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref? 

Os na fyddwch yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim, gallwn roi cyngor i chi o hyd ar arbed ynni, rheoli arian, tariffau ynni a’ch hawl i fudd-daliadau. Gallwn hefyd eich cyfeirio at gynlluniau eraill a all ddarparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim neu am gost isel i chi. 

Un o drigolion Sir y Fflint

Warm Home Discount

Sut y gall Nyth helpu?

Gwneud cais am Nyth