
Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru Nyth yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni gartrefi incwm isel a’r rheini sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.
Mae’n cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- lleihau newid yn yr hinsawdd
- helpu i ddileu tlodi tanwydd
- hybu gweithgareddau datblygu economaidd ac adfywio yng Nghymru
Mae’r gynllun yn ystyried y tŷ cyfan wrth wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael â chartrefi anos eu trin lle mae effaith tlodi tanwydd yn tueddu i fod ar ei gwaethaf.
Cyngor i bawb
Os ydych yn poeni am eich biliau ynni, ffoniwch ni a siaradwch ag un o’n cynghorwyr cyfeillgar. Gallant gynnig cyngor diduedd am ddim ar y canlynol:
- Arbed ynni a dŵr
- Rheoli arian
- Gwneud yn siŵr eich bod ar y tariff ynni a dŵr gorau
- P’un a oes hawl gennych i gael unrhyw fudd-daliadau er mwyn cynyddu eich incwm
Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 neu ofyn am alwad yn ôl gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Rydym yn profi nifer fawr o geisiadau am alwad yn ôl i’n gwefan ac efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag yr hoffem gysylltu â chi. Gallwch siarad ag aelod o’r tîm heddiw drwy ffonio rhadffôn 0808 808 2244.
Gwelliannau ynni-effeithlon i’r cartref am ddim
A yw eich cartref yn anodd i’w wresogi? Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref am ddim i chi.
Rydym yn gosod boeleri newydd, systemau gwres canolog a deunyddiau inswleiddio er mwyn helpu cartrefi ar incwm isel i gadw’n gynnes a lleihau cost eu biliau ynni.
Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim os:
- Rydych yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu gan landlord preifat (nid y Cyngor na Chymdeithas Dai)
- Rydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn cael budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd
- Nid yw eich cartref yn ynni-effeithlon ac mae’n ddrud i’w wresogi
Os ydych yn gymwys, byddwn yn argymell pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i chi. Byddant yn gwneud eich cartref yn gynhesach ac yn arbed arian i chi ar eich biliau ynni.
Bydd ein cynghorwyr yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich eiddo a’r budd-daliadau rydych yn eu cael, felly gwnewch yn siŵr bod eich llythyr dyfarnu budd-dal ac, os yw’n gymwys, manylion eich landlord gennych wrth law pan fyddwch yn ffonio.
