Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru Nyth yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni gartrefi incwm isel a’r rheini sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.
Mae’n cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- lleihau newid yn yr hinsawdd
- helpu i ddileu tlodi tanwydd
- hybu gweithgareddau datblygu economaidd ac adfywio yng Nghymru
Mae’r gynllun yn ystyried y tŷ cyfan wrth wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael â chartrefi anos eu trin lle mae effaith tlodi tanwydd yn tueddu i fod ar ei gwaethaf.

Caiff cynllun Nyth ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru gan Nwy Prydain. Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn un o brif is-gontractwyr Nwy Prydain.
Nwy Prydain
Mae Nwy Prydain yn gwmni Prydeinig. Fel rhan o Grŵp Centrica, mae’n darparu gwasanaethau nwy a thrydan a gwasanaeth atgyweirio cartref i filiynau o gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yw prif sefydliad diduedd y DU sy’n helpu unigolion i arbed ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae’n gwneud hyn drwy gynnig dealltwriaeth a gwybodaeth arbenigol am arbed ynni, helpu pobl i weithredu, helpu awdurdodau lleol a chymunedau i arbed ynni a darparu sicrwydd ansawdd ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a gosodwyr.
Adroddiadau Blynyddol Nyth
Mae Nyth yn adrodd yn flynyddol am y cyngor arbed ynni yn y cartref a’r gwelliannau ynni a ddarparwyd gan y cynllun yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Mae’r adroddiadau hyn yn manylu ar faint o gartrefi sydd wedi cael cymorth yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â’r arbedion cyfartalog fesul cartref. Mae hefyd yn manylu ar y gwaith partneriaeth a chymunedol a wnawn.
Gallwch ddarllen adroddiadau blynyddol cynllun Nyth ar wefan Llywodraeth Cymru.